Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2024

Amser: 09.01 - 09.11
 


Remote / Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Mabon ap GwynforAS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Llinos Madeley, Clerc, Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan. Roedd Mabon ap Gwynfor yn bresennol yn ei lle.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar Gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm

 

Dydd Mercher

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10 munud) 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2024

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024 -

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Trydydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2024 -

 

·         Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26 (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y sefyllfa sydd ohoni: Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer: Luke Fletcher AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Amserlen ar gyfer amserlen Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol ac ymgynghori â’r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI8>

<AI9>

5       Pwyllgorau

</AI9>

<AI10>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais i gwrdd y tu allan i’w slot cyfarfod arferol

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gall y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024 ac ar amser cynharach na'i slot cyfarfod rheolaidd ddydd Llun 23 Medi 2024.

 

</AI10>

<AI11>

6       Unrhyw Fater Arall

Pleidleisio

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes bwysleisio eto i'w grwpiau pa mor bwysig yw bod yn bresennol ac yn weladwy mewn da bryd cyn yr amser pleidleisio, yn enwedig pan fo niferoedd uchel o Aelodau yn cymryd rhan o bell. Nodwyd y bydd disgwyliadau ynghylch pleidleisio o bell yn cael eu harchwilio ymhellach pan fydd y Pwyllgor Busnes yn ailedrych ar ganllawiau cymryd rhan o bell, fel y cytunwyd yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor.

Rhaglen waith weithdrefnol

Nododd y Llywydd fod llwyth gwaith gweithdrefnol y Pwyllgor ar gyfer y tri chyfarfod arall yn nhymor yr haf yn debygol o fod yn sylweddol.

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>